Straeon bywyd go iawn

Lauren Stock – Acorns Nurseries, Casnewydd

Cyflogai Lauren Stock
Swydd Nyrs Meithrinfa
Sector Addysg a hyfforddiant
Cwmni Acorns Nurseries, Casnewydd
“Rwy’n mwynhau pob agwedd o’m swydd ac rwy’n mwynhau cael hwyl gyda’r plant”

Gall cwrdd â gofynion eich cyflogwr, rhieni a’u plant fod yn dipyn o her. Ond dyna yn union beth sydd angen i chi ei wneud pan rydych yn gweithio fel Nyrs Meithrinfa. Ac rydych angen y person cywir am swydd fel hon – rhywun fel Lauren Stock.

Datblygiad gwych

Pan gafodd ei chyfweld gyntaf am y swydd, gwnaeth Lauren sydd ag ychydig o anawsterau dysgu, argraff gref. Gwnaeth argraff ar y rheolwyr gyda’i brwdfrydedd a’i phersonoliaeth. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae’n datblygu’n wych yn Acorns Nurseries yng Nghasnewydd, Cymru. Mae’r adborth cadarnhaol mae Lauren yn ei dderbyn yn rheolaidd am ei gwaith gan rieni a rheolwyr yn dangos ei bod yn llwyddiannus yn cwrdd ag anghenion y dyletswyddau heriol.

Stori’r cyflogwr

Ar bapur roedd Lauren i’w gweld yn ymgeisydd cryf am y swydd wag oedd yn y feithrinfa. Roedd ganddi gymwysterau gofal plant ac roedd wedi anfon cais da. Roedd , Kate Goodenough o Access Supported Employment yng Nghyngor Dinas Casnewydd wedi helpu Lauren i baratoi am y cyfweliad. Fodd bynnag, mae Chris Sheldon, Rheolwr y Feithrinfa yn credu bod angen mwy na chymwysterau i gwrdd â gofynion y swydd mewn meithrinfa. “Mae gan rhai pobl yr holl gymwysterau yn y byd ond yn dal methu rhyngweithio â phobl” meddai Chris, “Ond mae gan Lauren y gallu naturiol i ryngweithio a phobl ac mae hynny yn rhywbeth na allwch ei brynu. Mae hi’n ased i’r feithrinfa.”

Cyfnod prawf

Gwnaeth personoliaeth Lauren y gwahaniaeth er mwyn iddi gael cynnig y swydd. Ond nid y cyfweliad oedd diwedd y broses dewis, dim ond y cychwyn oedd hyn. Mae’r feithrinfa yn gweithredu cyfnod prawf o 13 wythnos sy’n rhoi’r cyfle i reolwyr a gweithwyr posibl asesu os yw swydd yn addas i’r ddau ohonynt. Roedd perfformiad Lauren cystal yn ystod ei chyfnod prawf ag yr oedd yn ystod ei chyfweliad a chafodd gynnig swydd barhaol. Dywed Chris: “Mae hi’n drylwyr iawn. Rhowch waith i Lauren ei wneud a bydd yn sicr o’i wneud. Mae hefyd yn cymryd balchder mawr yn ei gwaith. Mae gan y rhieni feddwl uchel ohoni.”

Nid yw Lauren angen unrhyw gefnogaeth benodol i wneud ei gwaith ond mae Chris yn rhoi cefnogaeth gyffredinol os bydd ei angen. Er enghraifft, mae’n sicrhau bod Lauren yn deall materion pwysig a godwyd yn ystod cyfarfodydd tîm. “Rwy’n gwneud cymaint ag y gallaf i gyfnerthu hunan hyder Lauren” meddai Chris. Os bydd angen gall Lauren hefyd gael cefnogaeth gan y ‘Supported Employment service’ o fewn Cyngor Casnewydd.

Neges i gyflogwyr eraill

“Efallai bod rhywun gydag anghenion dysgu ychwanegol ond nid yw hynny’n broblem oherwydd gall cymeriad person fod yr hyn sydd ei angen ar y tîm. Y peth pwysig yw peidio â bod ofn gwahaniaeth ac i roi cyfle i bobl.”

Chris Sheldon, Rheolwr Meithrinfa, Acorns Nurseries, Casnewydd, Cymru.

Stori’r Cyflogai

“Rwyf erioed wedi bod eisiau bod yn nyrs meithrinfa” meddai Lauren. Ac er mwyn sicrhau bod ganddi’r holl gymwysterau roedd ei hangen, astudiodd Lauren ofal plant yn y coleg cyn cwblhau cymhwyster NVQ Level 2 mewn gofal plant.

Mae chwarae yn rhan bwysig o ddatblygiad plentyn ac yn rhan bwysig o waith Lauren. Mae’n gweithio gyda chydweithiwr i gynllunio a threfnu gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ar gyfer y plant fel ‘chwarae a baeddu’ chwarae â thywod a chwarae â dŵr. Mae hefyd yn gorfod monitro datblygiad y plant a chynhyrchu siartiau datblygiad sy’n cael eu hanfon i’r rhieni. Er ei bod yn gweithio ar draws pob oedran a gyda phob plentyn mae’n ‘weithiwr allweddol’ i ddau o blant penodol. “Mae hi’n gyfrifoldeb mawr i edrych ar ôl plentyn rhywun arall” meddai Lauren.

Bodlonrwydd mewn swydd

Mae hi’n mwynhau pob agwedd o’i swydd ond mae hi’n hoff iawn o’r rhan dysgu o’r swydd. Dywed Lauren: “Rwy’n hoffi dysgu plant. Pan rydych yn dysgu hwiangerddi iddynt, weithiau mae’r rhieni yn dweud wrthych fod eu plentyn wedi ailadrodd yr hwiangerddi gartref. Mae’n hyfryd i wybod hynny.” Mae Lauren yn mwynhau’r rhyngweithio rheolaidd mae’n cael gyda’r plant ac mae hefyd yn hoffi cwrdd â’r rhieni yn y nosweithiau rhieni. Mae hefyd yn cael bodlonrwydd mawr o weld datblygiad y plant fel maent yn dysgu a datblygu.

Ers iddi ddechrau gweithio yn y feithrinfa mae Lauren wedi ychwanegu mwy o gymwysterau i’w phortffolio o gyraeddiadau ac mae hyd yma wedi cwblhau Tystysgrif Cymorth Cyntaf a Thystysgrif Glendid Bwyd. Hefyd mae ganddi’r opsiwn ar gefnogaeth gan y feithrinfa i anelu am gymhwyster lefel uwch mewn gofal plant. Fodd bynnag am nawr mae’n canolbwyntio ei hegni ar wneud ei gorau yn ei swydd.

  • Holly Johnson
  • Max Zadow
  • Shirley Jones
  • Gordon Jeffs
  • Stephen Batchelor
  • James Edwards
  • Steve Ratchford
  • Peter Skuse
  • Peter
  • Stephen Carter
  • Ian Hollingsworth
  • Allisha Collins
  • Bianca Raven
  • Colin Jones
  • Thomas Hitchinson
  • Louise Whittaker
  • Shane McDermott
  • Sarah Whiteley
  • Sarah Haller
  • Christine Dryden
  • Sharon Stephenson
  • Neil Shepherd
  • Sheena Watts
  • Daniel Davies
  • Jeanette Weston
  • Beverley Davies
  • Kevin Wainwright
  • Stephen Forrester
  • Malcolm Burnand
  • Jon Prashar
  • Tahir Idris
  • Mim Robertson
  • Alan Bennett
  • Robert Kirkham-Evans
  • Jason Harris
  • Neil Singleton
  • Paul French
  • Eric Jewitt
  • Ann Wych
  • Brian Watson
  • Roger Ellison
  • Carol Beltran
  • Claire Easter
  • Graham Selby
  • Adrienne Henderson
  • Ian Pilcher
  • Gordon and Marina Sutherland
  • Joyce Blaikie
  • Michael Clarke
  • Rebecca Dawson
  • Frank Gillender
  • Sally Booth
  • Norman Milne
  • C-J Fordyce
  • Dawn Dawes
  • Terry Gillan
  • James Mathers
  • Irene Erwell
  • Gareth Chess
  • Julie Sumner
  • Robert Brumby
  • Alan Sage
  • Bethan Wyn
  • Sally Emery
  • Kevin Gordon
  • Lauren Stock

Lauren Stock (chwith) a Chris Sheldon, Rheolwr Meithrinfa

Lauren Stock

Chris Sheldon, Rheolwr Meithrinfa

Mae Lauren yn gwneud dysgu'n hwyl yn y feithrinfa

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.