Peidiwch â cholli'r dalent y gall pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor eu cynnig.
Fel chi, mae anabledd yn rhywbeth unigol iawn. Ac fel chi, mae gan bobl anabl sgiliau, galluoedd a thalentau y dylid eu cydnabod a'u defnyddio. Felly'r tro nesaf y byddwch yn recriwtio, cofiwch fod amrywiaeth eang o botensial ar gael.
Mae ymgyrch Yn abl i weithio ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr sydd am wybod sut y gallent ddefnyddio talent a sgiliau pobl anabl a'r rheini sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae gwybodaeth a chymorth ymarferol ar gael i helpu i wneud cyflogi a chadw pobl anabl mor hawdd â phosibl.
Mae gwaith ymchwil gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn dangos bod bron dwy ran o dair o fusnesau'n credu mai meddu ar gronfa amrywiol o dalent sy'n cyfrannu at lwyddiant.
Mae rheolwyr sy'n gadarnhaol am gyflogi pobl anabl yn edrych ar alluoedd a photensial pob unigolyn, p'un a ydynt yn anabl neu fod ganddynt gyflwr iechyd hirdymor ai peidio. Drwy wneud hyn, byddwch yn helpu i feithrin y dalent a fydd o fudd i'ch busnes yn y dyfodol.
Rhowch gynnig ar ein cwis newydd
- Dylai’r 12 cwestiwn cwis am anabledd ond cymryd ychydig o funudau
Stori bywyd
Mae fy ngolwg yn gwaethygu ond rwyf yn gwybod fy ngalluoedd ac mi wnaf yn sicr bod gwaith sydd angen ei wneud yn cael ei wneud
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.




