Ymgyrchoedd


Lladrad budd-daliadau

Rydym am glywed amdano

Os wyddoch am unrhyw un sy'n dwyn budd-daliadau gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Genedlaethol ar 0800 678 3722 neu 0800 854 440 am wasanaeth Saesneg. Mae eich galwad am ddim ac yn gyfrinachol, nid oes raid i chi roi eich enw na'ch cyfeiriad. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 6.00pm.

Neu gallwch Hysbyswch leidr budd-daliadau ar-lein.

Os oes gennych broblemau ar eich lleferydd neu ar eich clyw gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ffon testun ar 0800 328 0512 .

Os yw eich amgylchiadau wedi newid

Os byddwch yn fwriadol yn peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol, fe gewch eich trin fel rhywun sydd wedi cyflawni twyll budd-dal. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, gallech wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal a rhowch wybod iddynt am unrhyw newidiadau sy’n effeithio eich cais. Ar gyfer credydau treth ewch i www.direct.gov.uk/taxcredits ac os rydych yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor, cofiwch hefyd ddweud wrth eich cyngor lleol.

Nid os y byddwn yn eich dal, ond pryd.  A phan ddaliwn ni chi, gallech wynebu dedfryd o garchar.

Gorfod ad-dalu'r budd-dal y gwnes ei ladrata